Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir
23 Mawrth 2015
CLA497 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Ma'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”), fel y'u diwygiwyd. Ailddeddfir darpariaethau Rheoliadau 2005, ond disodlwyd y cyfeiriadau at y Cyngor Addysgu Cyffredinol gan gyfeiriadau at Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae hefyd yn dirymu ac yn diddymu Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012 a Rheoliad 10 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012.
CLA499 - Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 mewn perthynas â chyfansoddiad, aelodaeth a gweithdrefnau Cynghorau Iechyd Cymuned a'r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned. Bydd y diwygiadau yn darparu ar gyfer: -
CLA500 - Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Sir Drefaldwyn ("y cynghorau a ddiddymwyd") ac yn sefydlu, gan ddod i rym o 1 Ebrill 2015, un Cyngor Iechyd Cymunedol sengl i Bowys yn eu lle.
Mae hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau, hawliau a rhwymedigaethau o'r cynghorau a ddiddymwyd i Gyngor Iechyd Cymuned Powys.
CLA501 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r bandiau tâl deintyddol cyfredol 2.3 y cant (wedi'i dalgrynnu i fyny i'r 50c agosaf) ac wedi'u lledaenu ar draws Bandiau 1, 2 a 3 a chwrs o driniaeth frys.
CLA502 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Dyfrffyrdd) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod eiddo penodol y mae Canal & River Trust yn ei feddiannu, neu os nad yw’n cael ei feddiannu, yn berchen arno, i’w drin fel hereditament unigol at ddibenion ardrethu annomestig. Mae hefyd yn darparu bod Canal & River Trust i’w drin fel meddiannwr yr hereditament a’i fod i’w drin fel hereditament sydd wedi ei leoli yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae Canal & River Trust yn gwmni cyfyngedig drwy warant a ffurfiwyd ac a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46). Trosglwyddwyd swyddogaethau statudol Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain, a oedd yn arferadwy mewn perthynas â Chymru a Lloegr, i Canal & River Trust gan Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012 (O.S. 2012/1659). Trosglwyddwyd eiddo, hawliau a rhwymedigaethau penodol Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain i Canal & River Trust gan Gynllun Trosglwyddo Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain 2012 a wnaed o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
CLA504 - Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/558 (Cy. 80)) ac yn pennu, o ran Cymru, set newydd o ddangosyddion perfformiad statudol y bydd perfformiad awdurdodau tân ac achub, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, yn cael eu mesur yn eu herbyn. Bydd y Gorchymyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2015.
CLA505 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 i gynyddu gwerth, i gael effaith o 1 Ebrill 2015, y talebau a ddyroddir tuag at gost profion golwg a'r gost o gyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o drwsio ac amnewid teclynnau optegol.
CLA510 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio:-
(1) Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986;
(2) Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997; a
(3) Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.
Effaith y diwygiadau hyn yw caniatáu i'r Credyd Cynhwysol gael ei dderbyn fel budd-dal cymhwyso fel na fydd yn rhaid i hawliwr dalu taliadau'r GIG yn llawn neu'n rhannol. Byddai'n basbort ar gyfer holl hawlwyr y Credyd Cynhwysol rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2016.
Mae hyn yn golygu y gall y rhai sy'n cael y Credyd Cynhwysol fod yn gymwys i gael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim, prawf golwg y GIG am ddim a chymorth tuag at gost sbectolau a chostau teithio, a chyflwyno hawliad o dan Gynllun Incwm Isel y GIG i gael cymorth gyda chostau iechyd.
CLA511 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“Rheoliadau 1993”) yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu, a ddyroddir gan awdurdodau bilio (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref) yng Nghymru, ac ar gyfer yr wybodaeth sydd i’w rhoi pan fyddant yn cyflwyno hysbysiadau o’r fath.
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau 1993 drwy roi cyfeiriadau at Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 yn lle cyfeiriadau at Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ardrethi sy’n daladwy ar ôl 31 Mawrth 2015.
CLA513 - Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesiad o Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau yn ymwneud ag asesiad ariannol o unigolion ar gyfer codi tâl am ofal preswyl a gofal nad yw'n ofal preswyl a bydd yn:
Gofal a Chymorth Dibreswyl
Gofal a Chymorth Dibreswyl
CLA506 - Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn o dan adran 85 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth gan gynnwys ceisiadau am hysbysiad o weithdrefn adolygiad (Rheoliad 2), penderfyniadau swyddog am adolygiad (Rheoliad 3), gweithdrefn gychwynnol lle y cafodd penderfyniad gwreiddiol ei wneud o dan y Penderfyniad ar Orchymyn Atgyfeiriadau (Rheoliad 4), gweithdrefn adolygiad (Rheoliad 5), hysbysiad o'r penderfyniad ar yr adolygiad (Rheoliad 6), a chymhwysiad y Penderfyniad ar Orchymyn Atgyfeiriadau (Rheoliad 7).
CLA507 - Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Wrth gyflawni swyddogaeth tai i sicrhau bod llety ar gael i geisydd sy‘n ddigartref, neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, o dan Ran 2 o Ddeddf Tai 2014 (Deddf 2014), rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau bod y llety yn addas.
Mae Adran 59 o'r Ddeddf yn nodi rhai materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar addasrwydd at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf.
O dan adran 59 (3) o'r Ddeddf, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i bennu: -
(i) amgylchiadau lle y mae llety, neu nad yw llety, i gael ei ystyried yn addas i berson; a
(ii) materion y mae'n rhaid i awdurdod eu hystyried, neu diystyru, wrth benderfynu a yw llety'n addas.
CLA509 - Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae adran 78(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn darparu na chaiff awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75 wrth asesu ceisydd am gymorth ynghylch digartrefedd, oni bai ei fod wedi penderfynu rhoi sylw i un neu ragor o’r categorïau o geiswyr a bennwyd gan Weinidogion Cymru.
Mae adran 78(1) o’r Ddeddf yn gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu categorïau o’r fath.
Yn y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn pennu rhestr o gategorïau o geiswyr at ddibenion adran 78.